Daniel 11:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddwg hefyd i gaethiwed i'r Aifft, eu duwiau hwynt, a'u tywysogion, a'u dodrefn annwyl o arian ac aur; ac efe a bery fwy o flynyddoedd na brenin y gogledd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn mynd â'i duwiau nhw yn ôl i'r Aifft, y delwau i gyd a'r holl lestri gwerthfawr o aur ac arian. Ond bydd yn gadael llonydd i frenin y gogledd am rai blynyddoedd ar ôl hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yn cludo ymaith i'r Aifft eu duwiau a'u heilunod a'u celfi gwerthfawr o arian ac aur.