Daniel 12:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y tywysog mawr, yr hwn sydd yn sefyll dros feibion dy bobl: yna y bydd amser blinder, y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnnw: ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl, y rhai a gaffer yn ysgrifenedig yn y llyfr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny bydd Michael yn codi — yr arweinydd mawr sy'n gofalu am dy bobl. Bydd amser caled — gwaeth na dim mae'r wlad wedi ei brofi erioed o'r blaen. Ond bydd dy bobl di yn dianc — pawb sydd â'i henwau wedi eu hysgrifennu yn y llyfr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ac yn yr amser hwnnw cyfyd Mihangel, y tywysog mawr, sy'n gwarchod dros dy bobl; a bydd cyfnod blin na fu erioed ei fath er pan ffurfiwyd cenedl hyd yr amser hwnnw. Ond yn yr amser hwnnw gwaredir dy bobl, pob un yr ysgrifennwyd ei enw yn y llyfr.