Daniel 12:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llawer a burir, ac a gennir, ac a brofir; eithr y rhai drygionus a wnânt ddrygioni: ac ni ddeall yr un o'r rhai drygionus; ond y rhai doethion a ddeallant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd llawer o bobl yn cael eu puro, eu glanhau a'u coethi drwy'r cwbl. Ond bydd pobl ddrwg yn dal ati i wneud drwg. Fyddan nhw ddim yn deall. Dim ond y rhai doeth fydd yn deall beth sy'n digwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd llawer yn ymlanhau ac yn eu cannu eu hunain ac yn cael eu puro; bydd yr holl rai drygionus yn gwneud drwg heb ddeall, heb neb ond y deallus yn amgyffred.