Daniel 2:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y Caldeaid a atebasant o flaen y brenin, ac a ddywedasant, Nid oes dyn ar y ddaear a ddichon ddangos yr hyn y mae y brenin yn ei ofyn; ac ni cheisiodd un brenin, na phennaeth, na llywydd, y fath beth â hwn gan un dewin, nac astronomydd, na Chaldead.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r dynion doeth yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear allai wneud beth mae'r brenin yn ei ofyn. A does yna erioed frenin (sdim ots pa mor bwerus oedd e) wedi gofyn y fath beth i'w ddewiniaid, ei swynwyr neu ei ddynion doeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd y Caldeaid, "Nid oes neb ar wyneb daear a all fynegi'r hyn y mae'r brenin yn ei ofyn, oherwydd nid yw'r un brenin o fri ac awdurdod wedi gofyn cwestiwn fel hwn i ddewin na swynwr na Chaldead.