Daniel 2:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr atebodd Daniel trwy gyngor a doethineb i Arioch, pen‐distain y brenin, yr hwn a aethai allan i ladd doethion Babilon:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Daniel yn cael gair yng nghlust Arioch, capten gwarchodlu'r brenin, oedd wedi mynd allan i ddienyddio'r dynion doeth i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymresymodd Daniel yn ddoeth a phwyllog ag Arioch, capten gwarchodlu'r brenin, pan ddaeth i ladd y doethion.