Daniel 2:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd hyn yr aeth Daniel at Arioch, yr hwn a osodasai y brenin i ddifetha doethion Babilon: efe a aeth, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Na ddifetha ddoethion Babilon; dwg fi o flaen y brenin, a mi a ddangosaf i'r brenin y dehongliad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Daniel yn mynd at Arioch, oedd wedi cael y gwaith o ladd dynion doeth Babilon i gyd. Dwedodd wrtho, “Paid lladd dynion doeth Babilon. Dos â fi i weld y brenin. Gwna i ddweud wrtho beth ydy ystyr y freuddwyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth Daniel at Arioch, a benodwyd gan y brenin i ladd doethion Babilon, a dweud wrtho, "Paid difa doethion Babilon. Dos fi at y brenin, a mynegaf y dehongliad iddo."