Daniel 2:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Minnau hefyd, nid oherwydd y doethineb sydd ynof fi yn fwy na neb byw, y datguddiwyd i mi y dirgelwch hwn: ond o'u hachos hwynt y rhai a fynegant y dehongliad i'r brenin, ac fel y gwybyddit feddyliau dy galon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i ddim wedi cael yr ateb i'r dirgelwch am fy mod i'n fwy doeth na phawb arall, ond am fod Duw eisiau i'r brenin ddeall y freuddwyd gafodd e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond rhoddwyd datguddiad o'r dirgelwch i mi, nid am fy mod yn ddoethach na neb arall, ond er mwyn mynegi'r dehongliad i'r brenin, a pheri iti ddeall dy feddyliau.