Daniel 2:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ti, frenin, oeddit yn gweled, ac wele ryw ddelw fawr: y ddelw fawr hon, yr oedd ei disgleirdeb yn rhagorol, oedd yn sefyll gyferbyn â thi; a'r olwg arni ydoedd ofnadwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Eich mawrhydi, beth welsoch chi oedd cerflun anferth — roedd yn aruthrol fawr ac yn disgleirio'n llachar. Roedd yn ddigon i ddychryn unrhyw un.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O frenin, delw fawr a welaist yn y weledigaeth, ac yr oedd yn sefyll o'th flaen yn fawr ac yn llachar, a'i golwg yn codi arswyd.