Daniel 2:34 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg, nid trwy waith dwylo, a hi a drawodd y ddelw ar ei thraed o haearn a phridd, ac a'u maluriodd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra roeddech chi'n edrych arno dyma garreg yn cael ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig. Dyma'r garreg yn taro'r cerflun ar ei draed, ac yn eu malu nhw'n ddarnau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oeddit yn edrych, naddwyd carreg heb gymorth llaw; trawodd hon y ddelw yn ei thraed o haearn a chlai, a'u malurio.