Daniel 2:39 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar dy ôl di y cyfyd brenhiniaeth arall is na thi, a thrydedd frenhiniaeth arall o bres, yr hon a lywodraetha ar yr holl ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bydd teyrnas arall yn dod ar eich ôl chi; fydd hi ddim mor fawr â'ch ymerodraeth chi. Ar ôl hynny bydd trydedd teyrnas yn codi i reoli'r byd i gyd — dyma'r un o bres.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar dy l daw brenhiniaeth arall, wannach na thi. Yna trydedd frenhiniaeth, un o bres, yn teyrnasu dros yr holl ddaear.