Daniel 2:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y Caldeaid a lefarasant wrth y brenin yn Syriaeg, O frenin, bydd fyw yn dragywydd: adrodd dy freuddwyd i'th weision, a mynegwn y dehongliad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r dynion doeth yn ateb [yn Aramaeg ], “O frenin! Boed i chi fyw am byth! Dwedwch beth oedd y freuddwyd wrth eich gweision, a gwnawn ni ddweud beth mae'n ei olygu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd y Caldeaid mewn Aramaeg, "O frenin, bydd fyw byth! Adrodd dy freuddwyd wrth dy weision, a rhown iti'r dehongliad."