Daniel 2:41 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A lle y gwelaist y traed a'r bysedd, peth ohonynt o bridd crochenydd, a pheth ohonynt o haearn, brenhiniaeth ranedig fydd; a bydd ynddi beth o gryfder haearn, oherwydd gweled ohonot haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac wedyn y traed a'r bodiau welsoch chi (oedd yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith) — bydd hon yn deyrnas ranedig. Bydd ganddi beth o gryfder yr haearn ynddi, ond haearn wedi ei gymysgu â chrochenwaith ydy e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y gwelaist y traed a'r bysedd yn gymysgedd o glai crochenydd a haearn, felly bydd brenhiniaeth ranedig; bydd peth ohoni'n gryf fel haearn, yn union fel y gwelaist yr haearn yn gymysg 'r pridd cleiog.