Daniel 2:45 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Lle y gwelaist dorri carreg o'r mynydd, yr hon ni thorrwyd â llaw, a malurio ohoni yr haearn, y pres, y pridd, yr arian, a'r aur; hysbysodd y DUW mawr i'r brenin beth a fydd wedi hyn: felly y breuddwyd sydd wir, a'i ddehongliad yn ffyddlon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna ystyr y garreg gafodd ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig, a malu'r cwbl yn ddarnau — yr haearn, y pres, y crochenwaith, yr arian a'r aur. Mae'r Duw mawr wedi dangos i'r brenin beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Dyna oedd y freuddwyd, ac mae'r esboniad yn gywir hefyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fel y garreg a welaist yn cael ei naddu o'r mynydd heb gymorth llaw ac yn malurio'r haearn, y pres, y clai, yr arian, a'r aur. Dangosodd y Duw mawr i'r brenin beth sydd i ddigwydd ar l hyn. Y mae'r freuddwyd yn ddilys, a'i dehongliad yn sicr."