Daniel 2:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Atebodd y brenin a dywedodd wrth y Caldeaid, Aeth y peth oddi wrthyf: oni fynegwch y breuddwyd i mi, a'i ddehongliad, gwneir chwi yn ddrylliau, a'ch tai a osodir yn domen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Na,” meddai'r brenin, “yn bendant ddim. Dw i wedi penderfynu fod rhaid i chi ddweud beth oedd y freuddwyd a beth mae'n ei olygu. Os na wnewch chi bydd eich cyrff chi'n cael eu rhwygo'n ddarnau, a'ch cartrefi chi'n cael eu troi'n domen sbwriel!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd y brenin, "Dyma fy mhenderfyniad: os na fynegwch i mi'r freuddwyd a'i dehongliad, cewch eich rhwygo'n ddarnau, a chwelir eich tai.