Daniel 2:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond oni wnewch i mi wybod y breuddwyd, un gyfraith fydd i chwi: canys gair celwyddog a llygredig a ddarparasoch ei ddywedyd o'm blaen, nes newid yr amser: am hynny dywedwch i mi y breuddwyd, a mi a gaf wybod y medrwch ddangos i mi ei ddehongliad ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os wnewch chi ddim dweud wrtho i beth oedd y freuddwyd bydd hi ar ben arnoch chi. Dych chi'n mynd i wneud rhyw esgusion a hel straeon celwyddog yn y gobaith y bydd y sefyllfa'n newid. Felly dwedwch wrtho i beth oedd y freuddwyd. Bydd hi'n amlwg i mi wedyn eich bod chi yn gallu esbonio'r ystyr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
un ddedfryd yn unig sy'n eich aros os na fynegwch y freuddwyd imi. Yr ydych wedi cytuno 'ch gilydd i ddweud celwydd i'm camarwain hyd nes y daw tro ar fyd. Dywedwch wrthyf beth oedd y freuddwyd, a chaf wybod y medrwch ei dehongli."