Daniel 3:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nebuchodonosor y brenin a wnaeth ddelw aur, ei huchder oedd yn drigain cufydd, ei lled yn chwe chufydd; ac efe a'i gosododd hi i fyny yng ngwastadedd Dura, o fewn talaith Babilon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r brenin Nebwchadnesar yn gwneud delw aur oedd yn 27 metr o uchder ac yn dri metr o led. Cafodd y cerflun ei osod ar wastadedd Dwra yn nhalaith Babilon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth y Brenin Nebuchadnesar ddelw aur drigain cufydd o uchder a chwe chufydd o led, a'i gosod yng ngwastadedd Dura yn nhalaith Babilon.