Daniel 3:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae gwŷr o Iddewon a osodaist ti ar oruchwyliaeth talaith Babilon, Sadrach, Mesach, ac Abednego; y gwŷr hyn, O frenin, ni wnaethant gyfrif ohonot ti; dy dduwiau nid addolant, ac nid ymgrymant i'r ddelw aur a gyfodaist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae yna Iddewon yma — Shadrach, Meshach ac Abednego — gafodd eu penodi yn rheolwyr talaith Babilon gynnoch chi. Maen nhw wedi gwrthod gwrando, eich mawrhydi. Dŷn nhw ddim yn addoli eich duwiau chi, ac maen nhw'n gwrthod addoli y ddelw aur dych chi wedi ei chodi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae rhyw Iddewon a benodaist yn llywodraethwyr yn nhalaith Babilon Sadrach, Mesach ac Abednego heb gymryd dim sylw ohonot, O frenin. Nid ydynt yn gwasanaethu dy dduwiau, nac yn addoli'r ddelw aur a wnaethost,"