Daniel 3:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr awr hon wele, os byddwch chwi barod pan glywoch sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, a'r symffon, a phob rhyw gerdd, i syrthio ac i ymgrymu i'r ddelw a wneuthum, da: ac onid ymgrymwch, yr awr honno y bwrir chwi i ganol ffwrn o dân poeth; a pha DDUW yw efe a'ch gwared chwi o'm dwylo i?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n fodlon rhoi un cyfle arall i chi. Pan fyddwch chi'n clywed yr offerynnau, os ydych chi'n barod i blygu i lawr ac addoli y ddelw dw i wedi ei chodi, bydd popeth yn iawn. Ond os byddwch chi'n gwrthod, byddwch chi'n cael eich taflu ar unwaith i mewn i'r ffwrnais o dân. Pa dduw sy'n mynd i'ch achub chi o'm gafael i wedyn?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, a ydych yn barod i syrthio ac addoli'r ddelw a wneuthum, pan glywch su373?n y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn? Os na wnewch, teflir chwi ar unwaith i ganol ffwrnais o dn poeth. Pa dduw a all eich gwaredu o'm gafael?"