Daniel 3:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, y mae ein DUW ni, yr hwn yr ydym ni yn ei addoli, yn abl i'n gwared ni allan o'r ffwrn danllyd boeth: ac efe a'n gwared ni o'th law di, O frenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy'r Duw dŷn ni'n ei addoli yn bodoli, bydd e'n gallu'n hachub ni o'r ffwrnais dân ac o'ch gafael chi, o frenin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r Duw a addolwn ni yn alluog i'n hachub, ac fe'n hachub o ganol y ffwrnais danllyd ac o'th afael dithau, O frenin;