Daniel 3:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Atebodd Nebuchodonosor a dywedodd, Bendigedig yw DUW Sadrach, Mesach, ac Abednego, yr hwn a anfonodd ei angel, ac a waredodd ei weision a ymddiriedasant ynddo, ac a dorasant orchymyn y brenin, ac a roddasant eu cyrff, rhag gwasanaethu nac ymgrymu ohonynt i un duw, ond i'w DUW eu hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac meddai Nebwchadnesar, “Moliant i Dduw Shadrach, Meshach ac Abednego! Anfonodd angel i achub ei weision oedd yn trystio ynddo. Roedden nhw'n fodlon herio gorchymyn y brenin, a hyd yn oed marw cyn addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Nebuchadnesar, "Bendigedig yw Duw Sadrach, Mesach ac Abednego, a anfonodd ei angel i achub ei weision, a ymddiriedodd ynddo a herio gorchymyn y brenin, a rhoi eu cyrff i'r tn yn hytrach na gwasanaethu ac addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain.