Daniel 3:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y gosodir gorchymyn gennyf fi, Pob pobl, cenedl, a iaith, yr hon a ddywedo ddim ar fai yn erbyn DUW Sadrach, Mesach, ac Abednego, a wneir yn ddrylliau, a'u tai a wneir yn domen: oherwydd nad oes duw arall a ddichon wared fel hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dw i am ei wneud yn ddeddf fod neb o unrhyw wlad neu iaith i ddweud unrhyw beth yn erbyn Duw Shadrach, Meshach ac Abednego. Os gwnân nhw, bydd eu cyrff yn cael eu rhwygo'n ddarnau, a'u cartrefi yn cael eu troi'n domen sbwriel! Achos does yr un Duw arall yn gallu achub fel yma.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn gorchymyn fod unrhyw un, beth bynnag fo'i bobl, ei genedl, neu ei iaith, sy'n cablu Duw Sadrach, Mesach ac Abednego yn cael ei rwygo'n ddarnau, a bod ei du375? i'w droi'n domen. Nid oes duw arall a all waredu fel hyn."