Daniel 3:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr amser hwnnw, pan glywodd yr holl bobloedd sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, a phob rhyw gerdd, y bobloedd, y cenhedloedd, a'r ieithoedd oll, a syrthiasant, ac a addolasant y ddelw aur a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly yr eiliad y clywodd y bobl yr offerynnau i gyd, dyma pawb, o bob gwlad ac iaith yn plygu i lawr ac yn addoli'r ddelw aur oedd Nebwchadnesar wedi ei chodi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, cyn gynted ag y clywodd yr holl bobl su373?n y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn, syrthiodd y bobloedd a'r cenhedloedd a'r ieithoedd ac addoli'r ddelw aur a wnaeth Nebuchadnesar.