Daniel 4:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ei ganghennau oedd deg, a'i ffrwyth yn aml, ac ymborth arno i bob peth: dano yr ymgysgodai bwystfilod y maes, ac adar y nefoedd a drigent yn ei ganghennau ef, a phob cnawd a fwytâi ohono.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ei dail yn hardd, ac roedd digonedd o ffrwyth arni — digon o fwyd i bawb! Roedd anifeiliaid gwylltion yn cysgodi dani, ac adar yn nythu yn ei brigau. Roedd popeth byw yn cael eu bwyd oddi arni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ei dail yn brydferth a'i ffrwyth yn niferus, ac ymborth arni i bopeth byw. Oddi tani ci anifeiliaid loches, a thrigai adar yr awyr yn ei changhennau, a chi pob creadur byw fwyd ohoni.