Daniel 4:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn llefain yn groch, ac yn dywedyd fel hyn, Torrwch y pren, ac ysgythrwch ei wrysg ef, ysgydwch ei ddail ef, a gwasgerwch ei ffrwyth: cilied y bwystfil oddi tano, a'r adar o'i ganghennau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n gweiddi'n uchel, ‘Torrwch y goeden i lawr, a thorri ei changhennau i ffwrdd! Tynnwch ei dail a chwalu ei ffrwyth! Gyrrwch yr anifeiliaid i ffwrdd, a heliwch yr adar o'i brigau!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yn gweiddi'n uchel, 'Torrwch y goeden, llifiwch ei changhennau; tynnwch ei dail a gwasgarwch ei ffrwyth. Gwnewch i'r anifeiliaid ffoi o'i chysgod a'r adar o'i changhennau.