Daniel 4:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes; gwlycher ef hefyd â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda'r bwystfilod yng ngwellt y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond gadewch y boncyff a'r gwreiddiau yn y ddaear, gyda rhwymyn o haearn a phres amdano. Bydd y gwlith yn ei wlychu gyda'r glaswellt o'i gwmpas; a bydd yn bwyta planhigion gwyllt gyda'r anifeiliaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gadewch y boncyff a'i wraidd yn y ddaear, a chadwyn o haearn a phres amdano yng nghanol y maes. Bydd gwlith y nefoedd yn ei wlychu, a bydd ei le gyda'r anifeiliaid sy'n pori'r ddaear.