Daniel 4:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O ordinhad y gwyliedyddion y mae y peth hyn, a'r dymuniad wrth ymadrodd y rhai sanctaidd; fel y gwypo y rhai byw mai y Goruchaf a lywodraetha ym mrenhiniaeth dynion, ac a'i rhydd i'r neb y mynno efe, ac a esyd arni y gwaelaf o ddynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r angylion wedi cyhoeddi hyn, a'r rhai sanctaidd wedi rhoi'r ddedfryd! “‘Y bwriad ydy fod pob person byw i ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd. Mae'n gallu eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau, hyd yn oed y person mwyaf di-nod.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dedfryd y gwylwyr yw hyn, a dyma ddatganiad y rhai sanctaidd, er mwyn i bawb byw wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn, ac yn gosod yr isaf yn ben arni.'