Daniel 4:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma y breuddwyd a welais i Nebuchodonosor y brenin. Tithau, Beltesassar, dywed ei ddehongliad ef, oherwydd nas gall holl ddoethion fy nheyrnas hysbysu y dehongliad i mi: eithr ti a elli; am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyna'r freuddwyd ges i,” meddai Nebwchadnesar. “Dw i eisiau i ti, Belteshasar, ddweud beth mae'n ei olygu. Does neb arall o ddynion doeth y deyrnas wedi gallu esbonio'r ystyr i mi. Ond dw i'n siŵr y byddi di'n gallu, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dyma'r freuddwyd a welais i, y Brenin Nebuchadnesar. Dywed tithau, Beltesassar, beth yw'r dehongliad, oherwydd ni fedr yr un o ddoethion fy nheyrnas ei dehongli imi, ond medri di, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot."