Daniel 4:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Daniel, yr hwn ydoedd ei enw Beltesassar, a synnodd dros un awr, a'i feddyliau a'i dychrynasant ef. Atebodd y brenin, a dywedodd, Beltesassar, na ddychryned y breuddwyd di, na'i ddehongliad. Atebodd Beltesassar, a dywedodd, Fy arglwydd, deued y breuddwyd i'th gaseion, a'i ddehongliad i'th elynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alw'n Belteshasar) dan deimlad am beth amser. Roedd beth oedd yn mynd trwy ei feddwl yn ei ddychryn. Ond dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Belteshasar, paid poeni. Paid gadael i'r freuddwyd dy ddychryn di.” Ac meddai Belteshasar, “Meistr, o na fyddai'r freuddwyd wedi ei rhoi i'ch gelynion chi, a'i hystyr ar gyfer y rhai sy'n eich casáu chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Daniel, a enwyd Beltesassar, yn fud am funud, a'i feddwl mewn penbleth. Dywedodd y brenin, "Paid gadael i'r freuddwyd a'r dehongliad dy boeni, Beltesassar." Atebodd yntau, "Boed hon yn freuddwyd i'th gaseion, a'i dehongliad i'th elynion.