Daniel 4:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A lle y gwelodd y brenin wyliedydd a sanct yn disgyn o'r nefoedd, ac yn dywedyd, Torrwch y pren, a dinistriwch ef, er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes, a gwlycher ef â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda bwystfil y maes, hyd oni chyfnewidio saith amser arno ef:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn dyma chi'n gweld angel yn dod i lawr o'r nefoedd, ac yn dweud, ‘Torrwch y goeden i lawr, a'i dinistrio, ond gadewch y boncyff yn y ddaear gyda rhwymyn o haearn a phres amdano. Fel y glaswellt o'i gwmpas, bydd y gwlith yn ei wlychu, a bydd yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion am amser hir.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe welaist hefyd, O frenin, wyliwr sanctaidd yn dod i lawr ac yn dweud, 'Torrwch y goeden a difethwch hi, ond gadewch y boncyff a'i wraidd yn y ddaear, a chadwyn o haearn a phres amdano yng nghanol y maes; bydd gwlith y nefoedd yn ei wlychu, a bydd ei le gyda'r anifeiliaid, hyd nes i saith cyfnod fynd heibio.'