Daniel 4:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys gyrrant di oddi wrth ddynion, a chyda bwystfil y maes y bydd dy drigfa, â gwellt hefyd y'th borthant fel eidionau, ac a'th wlychant â gwlith y nefoedd, a saith amser a gyfnewidia arnat ti, hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i'r neb a fynno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch chi'n cael eich cymryd allan o gymdeithas, ac yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion. Byddwch chi'n bwyta glaswellt fel ychen, ac allan yn yr awyr agored yn cael eich gwlychu gan wlith. Bydd amser hir yn mynd heibio, nes i chi ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cei dy yrru o u373?ydd pobl, a bydd dy gartref gyda'r anifeiliaid; byddi'n bwyta gwellt fel ych, a bydd gwlith y nefoedd yn dy wlychu. Bydd saith cyfnod yn mynd heibio, nes iti wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn.