Daniel 4:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, frenin, bydded fodlon gennyt fy nghyngor, a thor ymaith dy bechodau trwy gyfiawnder, a'th anwireddau trwy drugarhau wrth drueiniaid, i edrych a fydd estyniad ar dy heddwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly plîs ga i roi cyngor i chi, eich mawrhydi. Trowch gefn ar eich pechod, a gwneud y peth iawn. Stopiwch wneud pethau drwg, a dechrau bod yn garedig at bobl dlawd. Falle, wedyn, y cewch chi ddal i fod yn llwyddiannus.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Derbyn fy nghyngor, O frenin: tro oddi wrth dy bechodau trwy wneud cyfiawnder, a'th droseddau trwy wneud trugaredd 'r tlodion, iti gael dyddiau hir o heddwch."