Daniel 4:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llefarodd y brenin, a dywedodd, Onid hon yw Babilon fawr, yr hon a adeiledais i yn frenhindy yng nghryfder fy nerth, ac er gogoniant fy mawrhydi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dwedodd fel yma: “Edrychwch ar Babilon, y ddinas wych yma! Fi sydd wedi adeiladu'r cwbl, yn ganolfan frenhinol i ddangos mor bwerus ac mor fawr ydw i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac meddai, "Onid hon yw Babilon fawr, a godais trwy rym fy nerth yn gartref i'r brenin ac er clod i'm mawrhydi?"