Daniel 4:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thi a yrrir oddi wrth ddynion, a'th drigfa fydd gyda bwystfilod y maes; â gwellt y'th borthant fel eidionau; a chyfnewidir saith amser arnat; hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i'r neb y mynno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddi'n cael dy gymryd allan o gymdeithas, yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion, ac yn bwyta glaswellt fel ychen. Bydd amser hir yn mynd heibio cyn i ti ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cei dy yrru o u373?ydd pobl, a bydd dy gartref gyda'r anifeiliaid. Byddi'n bwyta gwellt fel ych, a bydd saith cyfnod yn mynd heibio, nes iti wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn."