Daniel 4:34 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn niwedd y dyddiau, myfi Nebuchodonosor a ddyrchefais fy llygaid tua'r nefoedd, a'm gwybodaeth a ddychwelodd ataf, a bendithiais y Goruchaf, a moliennais a gogoneddais yr hwn sydd yn byw byth, am fod ei lywodraeth ef yn llywodraeth dragwyddol, a'i frenhiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond yn y diwedd, dyma fi, Nebwchadnesar, yn troi at yr Un nefol, a ces fy iacháu yn feddyliol. Dechreuais foli y Duw Goruchaf, ac addoli'r Un sy'n byw am byth. Mae ei awdurdod yn para am byth, ac mae'n teyrnasu o un genhedlaeth i'r llall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ymhen amser, codais i, Neb-uchadnesar, fy llygaid i'r nefoedd, ac adferwyd fy synnwyr. Yna bendithiais y Goruchaf, a moli a mawrhau'r un sy'n byw yn dragywydd. Y mae ei arglwyddiaeth yn arglwyddiaeth dragwyddol, a'i frenhiniaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.