Daniel 4:36 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn yr amser hwnnw y dychwelodd fy synnwyr ataf fi, a deuthum i ogoniant fy mrenhiniaeth, fy harddwch a'm hoywder a ddychwelodd ataf fi, a'm cynghoriaid a'm tywysogion a'm ceisiasant; felly y'm sicrhawyd yn fy nheyrnas, a chwanegwyd i mi fawredd rhagorol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan ges i fy iacháu, ces fynd yn ôl i fod yn frenin, gydag anrhydedd ac ysblander. Daeth gweinidogion y llywodraeth a'r uchel-swyddogion i gyd i'm gwneud yn frenin unwaith eto. Roedd gen i fwy o awdurdod nag erioed!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y pryd hwnnw adferwyd fy synnwyr a dychwelodd fy mawrhydi a'm clod, er gogoniant fy mrenhiniaeth. Daeth fy nghynghorwyr a'm tywysogion ataf. Cadarnhawyd fi yn fy nheyrnas, a rhoddwyd llawer mwy o rym i mi.