Daniel 5:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae gŵr yn dy deyrnas, yr hwn y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo; ac yn nyddiau dy dad y caed ynddo ef oleuni, a deall, a doethineb fel doethineb y duwiau: a'r brenin Nebuchodonosor dy dad a'i gosododd ef yn bennaeth y dewiniaid, astronomyddion, Caldeaid, a brudwyr, sef y brenin dy dad di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae yna ddyn yn dy deyrnas sydd ag ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo. Pan oedd Nebwchadnesar yn frenin, daeth yn amlwg fod gan y dyn yma ddirnadaeth, deall, a doethineb fel petai'n un o'r duwiau ei hun. Gwnaeth Nebwchadnesar e yn brif swynwr, ac roedd yn bennaeth ar yr dewiniaid, swynwyr a'r dynion doeth i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae gu373?r yn dy deyrnas sy'n llawn o ysbryd y duwiau sanctaidd, ac yn amser dy dad dangosodd oleuni a deall, a doethineb fel doethineb y duwiau; a gwnaed ef gan dy dad, y Brenin Nebuchadnesar, yn ben ar y dewiniaid a'r swynwyr a'r Caldeaid a'r sr-ddewiniaid.