Daniel 5:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a glywais amdanat ti, y medri ddeongl deongliadau, a datod clymau; yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen, a hysbysu i mi ei dehongliad, tydi a wisgir â phorffor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dw i wedi cael ar ddeall dy fod ti'n gallu dehongli pethau a datrys problemau cymhleth. Felly, os gelli di ei ddarllen a dweud wrtho i beth mae'n ei olygu, byddi'n cael dy wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am dy wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond rwy'n clywed dy fod ti'n gallu rhoi deongliadau a datrys problemau. Yn awr os medri ddarllen yr ysgrifen a'i dehongli i mi, cei wisg borffor, a chadwyn aur am dy wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas."