Daniel 5:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac oherwydd y mawredd a roddasai efe iddo, y bobloedd, y cenhedloedd, a'r ieithoedd oll, oedd yn crynu ac yn ofni rhagddo ef: yr hwn a fynnai a laddai, a'r hwn a fynnai a gadwai yn fyw; hefyd y neb a fynnai a gyfodai, a'r neb a fynnai a ostyngai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Duw wedi ei wneud mor fawr nes bod gan bawb o bob gwlad ac iaith ei ofn. Roedd yn lladd pwy bynnag roedd e'n dewis ei ladd, ac yn arbed pwy bynnag oedd e eisiau. Doedd dim dal pwy fyddai e'n ei anrhydeddu, a pwy fyddai'n ei sathru nesa.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac oherwydd y mawredd a roed iddo, yr oedd yr holl bobloedd, cenhedloedd ac ieithoedd yn crynu mewn ofn o'i flaen. Gallai ladd neu gadw'n fyw, dyrchafu neu ddarostwng y neb a fynnai.