Daniel 5:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gyrrwyd ef hefyd oddi wrth feibion dynion, a gwnaethpwyd ei galon fel bwystfil, a chyda'r asynnod gwylltion yr oedd ei drigfa: â gwellt y porthasant ef fel eidion, a'i gorff a wlychwyd gan wlith y nefoedd, hyd oni wybu mai y DUW goruchaf oedd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn gosod arni y neb a fynno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd ei gymryd allan o gymdeithas. Roedd yn meddwl ei fod yn anifail ac yn byw gyda'r asynnod gwyllt. Roedd yn bwyta glaswellt fel ychen, a'i gorff yn cael ei wlychu gan wlith yn yr awyr agored. Bu felly nes iddo ddeall mai'r Duw Goruchaf sy'n teyrnasu dros lywodraethau'r byd, a'i fod yn eu rhoi i bwy bynnag mae e eisiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyrrwyd ef o u373?ydd pobl, rhoddwyd iddo galon anifail, ac yr oedd ei gartref gyda'r asynnod gwylltion. Yr oedd yn bwyta gwellt fel ych, ac yr oedd ei gorff yn wlyb gan wlith y nefoedd, nes iddo wybod mai'r Duw Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn.