Daniel 5:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y newidiodd lliw y brenin, a'i feddyliau a'i cyffroesant ef, fel y datododd rhwymau ei lwynau ef, ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth yn welw gan ddychryn. Roedd ei goesau'n wan a'i liniau'n crynu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gwelwodd y brenin mewn dychryn, ac aeth ei gymalau'n llipa a'i liniau'n grynedig.