Daniel 6:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y nesasant, ac y dywedasant o flaen y brenin am orchymyn y brenin; Oni seliaist ti orchymyn, mai i ffau y llewod y bwrid pa ddyn bynnag a ofynnai gan un DUW na dyn ddim dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin? Atebodd y brenin, a dywedodd, Y mae y peth yn wir, yn ôl cyfraith y Mediaid a'r Persiaid, yr hon ni newidir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n mynd yn ôl at y brenin, ac yn ei atgoffa am y gwaharddiad. “Wnaethoch chi ddim arwyddo cyfraith yn gwahardd pobl am dri deg diwrnod rhag gweddïo ar unrhyw dduw na neb arall ond chi eich hun, eich mawrhydi? Ac yn dweud y byddai unrhyw un sy'n gwneud hynny yn cael ei daflu i'r llewod?” “Do, yn bendant,” meddai'r brenin. “Mae bellach yn rhan o gyfraith Media a Persia, sydd byth i gael ei newid.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aethant at y brenin a'i atgoffa am ei orchymyn: "Onid wyt wedi arwyddo gorchymyn fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn gweddo ar unrhyw dduw neu ddyn ar wahn i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod?" Atebodd y brenin, "Dyna'r gorchymyn, yn unol chyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid."