Daniel 6:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr atebasant ac y dywedasant o flaen y brenin, Y Daniel, yr hwn sydd o feibion caethglud Jwda, ni wnaeth gyfrif ohonot ti, frenin, nac o'r gorchymyn a seliaist, eithr tair gwaith yn y dydd y mae yn gweddïo ei weddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma nhw'n dweud wrth y brenin, “Dydy'r dyn Daniel yna, oedd yn un o'r caethion o Jwda, yn cymryd dim sylw ohonoch chi na'ch gwaharddiad eich mawrhydi. Mae'n dal ati i weddïo ar ei Dduw dair gwaith bob dydd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedasant hwythau wrth y brenin, "Nid yw'r Daniel yma, o gaethglud Jwda, yn cymryd unrhyw sylw ohonot ti na'r gorchymyn a arwyddaist, O frenin, ond y mae'n gweddo deirgwaith y dydd."