Daniel 6:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr archodd y brenin, a hwy a ddygasant Daniel, ac a'i bwriasant i ffau y llewod. Yna y brenin a lefarodd ac a ddywedodd wrth Daniel, Dy DDUW, yr hwn yr ydwyt yn ei wasanaethu yn wastad, efe a'th achub di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r brenin yn gorchymyn dod â Daniel ato, a'i fod i gael ei daflu i ffau'r llewod. Ond meddai'r brenin wrth Daniel, “Bydd dy Dduw, yr un rwyt ti'n ei addoli mor ffyddlon, yn dy achub di.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly gorchmynnodd y brenin iddynt ddod Daniel, a'i daflu i ffau'r llewod; ond dywedodd wrth Daniel, "Bydded i'th Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub."