Daniel 6:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr aeth y brenin i'w lys, ac a fu y noson honno heb fwyd: ac ni adawodd ddwyn difyrrwch o'i flaen; ei gwsg hefyd a giliodd oddi wrtho.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r brenin yn mynd yn ôl i'w balas. Wnaeth e fwyta dim byd y noson honno. Gwrthododd gael ei ddifyrru, ac roedd yn methu'n lân a cysgu drwy'r nos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dychwelodd y brenin i'w balas a threulio'r noson mewn ympryd; ni ddaethpwyd merched ato, ac ni allai gysgu.