Daniel 6:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan nesaodd efe at y ffau, efe a lefodd ar Daniel â llais trist. Llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Daniel, gwasanaethwr y DUW byw, a all dy DDUW di, yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac wrth agosáu at y ffau dyma fe'n galw ar Daniel mewn llais pryderus, “Daniel! Gwas y Duw byw. Ydy'r Duw wyt ti'n ei addoli mor ffyddlon wedi gallu dy achub di rhag y llewod?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo gyrraedd y ffau, galwodd ar Daniel mewn llais pryderus a dweud, "Daniel, gwas y Duw byw, a fedrodd dy Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub rhag y llewod?"