Daniel 6:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y brenin fu dda iawn ganddo o'i achos ef, ac a archodd gyfodi Daniel allan o'r ffau. Yna y codwyd Daniel o'r ffau; ac ni chaed niwed arno, oherwydd credu ohono yn ei DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y brenin wrth ei fodd, a dyma fe'n gorchymyn codi Daniel allan o'r ffau. Dyma nhw'n gwneud hynny, a doedd e ddim mymryn gwaeth, am ei fod wedi trystio'i Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorfoleddodd y brenin, a gorchymyn rhyddhau Daniel o'r ffau. A phan gafodd ei ryddhau, nid oedd unrhyw niwed i'w weld arno, am iddo ymddiried yn ei Dduw.