Daniel 6:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y gorchmynnodd y brenin, a hwy a ddygasant y gwŷr hynny a gyhuddasent Daniel, ac a'u bwriasant i ffau y llewod, hwy, a'u plant, a'u gwragedd; ac ni ddaethant i waelod y ffau hyd oni orchfygodd y llewod hwynt, a dryllio eu holl esgyrn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma'r brenin yn gorchymyn fod y dynion oedd wedi ymosod mor giaidd ar Daniel yn cael eu harestio, a'i taflu i ffau'r llewod — a'u gwragedd a'u plant gyda nhw. Cyn iddyn nhw gyrraedd gwaelod y ffau roedd y llewod arnyn nhw ac wedi eu rhwygo nhw'n ddarnau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ar orchymyn y brenin, daethant 'r rhai oedd wedi cyhuddo Daniel, a'u taflu i ffau'r llewod, hwy a'u plant a'u gwragedd, a chyn iddynt gyrraedd gwaelod y ffau yr oedd y llewod wedi eu llarpio ac wedi malu eu hesgyrn yn chwilfriw.