Daniel 6:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gennyf fi y gosodwyd cyfraith, ar fod trwy holl lywodraeth fy nheyrnas, i bawb grynu ac ofni rhag DUW Daniel: oherwydd efe sydd DDUW byw, ac yn parhau byth; a'i frenhiniaeth ef yw yr hon ni ddifethir, a'i lywodraeth fydd hyd y diwedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n cyhoeddi fod pawb sy'n byw o fewn ffiniau'r deyrnas dw i'n frenin arni, i ofni a pharchu Duw Daniel. Fe ydy'r Duw byw, ac mae e gyda ni bob amser! Fydd ei deyrnas byth yn syrthio, a bydd ei awdurdod yn aros am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn gorchymyn fod pawb ym mhob talaith o'm teyrnas i ofni a pharchu Duw Daniel. Ef yw'r Duw byw, y tragwyddol; ni ddinistrir ei frenhiniaeth, a phery ei arglwyddiaeth byth.