Daniel 6:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y Daniel hwn oedd yn rhagori ar y rhaglawiaid a'r tywysogion, oherwydd bod ysbryd rhagorol ynddo ef: a'r brenin a feddyliodd ei osod ef ar yr holl deyrnas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn fuan iawn daeth hi'n amlwg fod Daniel yn llawer mwy galluog na'r comisiynwyr eraill a penaethiaid y taleithiau i gyd — roedd ganddo allu cwbl anarferol. Yn wir, roedd y brenin yn bwriadu rhoi'r deyrnas i gyd dan ei ofal.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Daniel yn rhagori ar y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr am fod ganddo ddawn arbennig, a bwriadai'r brenin ei osod dros yr holl deyrnas.