Daniel 7:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr ewyllysiais wybod y gwirionedd am y pedwerydd bwystfil, yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll, yn ofnadwy iawn, a'i ddannedd o haearn, a'i ewinedd o bres; yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill â'i draed:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond wedyn roeddwn i eisiau gwybod mwy am y pedwerydd creadur, yr un oedd yn hollol wahanol i'r lleill. Roedd hwnnw'n wirioneddol ddychrynllyd gyda'i ddannedd haearn a'i grafangau pres. Roedd yn llarpio a chnoi, a sathru dan draed bopeth oedd yn dal i sefyll.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dymunais wybod ystyr y pedwerydd bwystfil, a oedd yn wahanol i'r lleill i gyd, yn arswydus iawn, a chanddo ddannedd o haearn a chrafangau o bres, yn bwyta ac yn malu ac yn sathru'r gweddill dan ei draed;